Mae'r ail gyfrol yn y gyfres Gofal ein Gwinllan yn ymwneud â ffigyrau a gyfrannodd yn helaeth at waddol ddiwylliannol yr Eglwys yng Nghymru yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ceir yma amrywiaeth eang o themâu: y cyswllt Methodistaidd ar ddechrau'r
ganrif, hynafiaethau a thwf ysgolheictod, bwrlwm y mudiad eisteddfodol, datblygiad y wasg gyfnodol, cyfraniad neilltuol merched i'r stori a rhychwant gweithgareddau'r hen bersoniaid llengar.
Down i adnabod ffigyrau diddan fel Alun, Tegid a Daniel Ddu o blith y beirdd; emynwyr fel Ieuan Glan Geirionydd; W. Bruce Knight, Rice Rees a Thomas Burgess yr ysgolheigion; y cyfreithwyr Arthur James Johnes yn ogystal ag eisteddfodwyr fel Carnhuanawc,
Gwallter Mechain, Ifor Ceri a W.J. Ress, Cascob. Cawn adnabod alltudion fel Thomas Jones, Creaton, Edward Morgan, Syston, a John Owen, Thrussington, a gyfrannodd at y dystiolaeth eglwysig Gymreig a Chymraeg o Loegr, ynghyd â chymwynasgwyr mawr fel
Rowland Williams, golygydd y Gwyliedydd, Thomas Richards, Darowen, a'i feibion, Mair, ei ferch lengar, heb sôn am ferched ysblennydd erall fel Angharad Llwyd a Gwenynen Gwent.
Yn groes i'r dyb gyffredin, egni, bywiogrwydd a'r ysbryd creadigol a nodweddodd y cyfnod hwn, fel y daw yn amlwg o ddarllen y penodau cyfoethog hyn. Bydd y drydedd gyfrol yn dilyn yr hanes hyd at ddechrau'r ugeinfed ganrif.